Comisiwn y Senedd |
Lleoliad: |
Allanol |
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Llun, 15 Mehefin 2020 |
|
||||
Amser: |
14.00 - 16.20 |
|
||||
|
||||||
|
||||||
Cofnodion: SC(5)2020(4) |
||||||
|
|
|
||||
Aelodau’r Comisiwn: |
|
Elin Jones AS (Cadeirydd) Rhun ap Iorwerth AS David J Rowlands AS Joyce Watson AS |
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Swyddogion yn bresennol: |
|
Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Senedd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Senedd Arwyn Jones, Cyfarwyddwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Dave Tosh, Cyfarwyddwr Adnoddau Jennifer Cottle, Gwasanaeth Cyfreithiol Nia Morgan, Cyfarwyddwr Cyllid Mark Neilson, Pennaeth TGCh a Dalledu Lowri Williams, Pennaeth Adnoddau Dynol a Chynhwysiant Sulafa Thomas, Pennaeth y Gwasanaeth Cymorth i'r Comisiwn ac i'r Aelodau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd
|
||||
|
|
|||||
|
|
|
||||
Eraill yn bresennol: |
|
|
||||
|
|
|||||
1 Cyflwyniad
1.a Cyflwyniad ac ymddiheuriadau
Cafwyd ymddiheuriad gan Suzy Davies.
1.b Datganiadau o fuddiant
Nid oedd dim datganiadau ffurfiol i’w datgan.
1.c Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 4 Mai.
2 Strategaeth y Gyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2021-22
Cynhaliodd y Comisiynwyr eu trafodaeth gyntaf am gyllideb ddrafft Comisiwn y Senedd 2021-22. Gwnaethant ystyried blaenoriaethau a heriau sy'n debygol o godi yn y cyfnod sydd i ddod, a rhoi eu barn er mwyn llywio’r gwaith paratoi pellach sydd i'w wneud ar y gyllideb ddrafft. Gwnaethant ystyried rhinweddau a goblygiadau cymharol gwahanol senarios a mynegi y byddai’n well ganddynt ostwng y cynnydd a ragwelir yn y gyllideb o 2.48% i 1% er mwyn adlewyrchu’r hinsawdd economaidd debygol. Gwnaethant fyfyrio ar y ffaith y disgwylir datblygiadau pellach yn ystod y cyfnod hyd at yr hydref.
Cytunodd y Comisiynwyr y dylid cynnwys cyllideb tair blynedd yn nogfen gyllideb ddrafft 2021-22, a pharhau i symud y ffocws oddi ar cap staffio sefydlog ar gyfer y sefydliad i ffocws tymor hirach ar y gyllideb weithredol gyfan.
At hynny, gofynnodd y Comisiynwyr am roi ystyriaeth bellach o'r geiriad o ran diweddaru Nodau Strategol y Comisiwn ar gyfer y Chweched Senedd.
Bydd y gyllideb ddrafft yn cael ei gosod erbyn 1 Hydref, yn ôl y gofyn.
3 Diweddariad COVID-19
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad ac roeddent yn gefnogol i baratoadau gael eu gwneud ar gyfer dychwelyd i'r ystâd. Gwnaethant gefnogi'r dull o ymdrin â chynlluniau ar gyfer dychwelyd i'r ystâd mewn unrhyw fodd, gyda’r trefniadau cychwynnol yn seiliedig ar gael 10 y cant o bobl yn yr ystâd, er mwyn profi ein trefniadau’n drylwyr a chynnal amgylchedd diogel, cyn belled ag y bo modd.
At hynny, gwnaethant drafod y persbectif ehangach o ran gwersi a ddysgwyd a ffyrdd newydd o weithio ar gyfer dyfodol sy’n fwy gwydn a hyblyg.
4 Pontio dros gyfnod yr etholiad: Diddymiad - Defnyddio Adnoddau
Ystyriodd y Comisiynwyr bapur wnaeth roi’r wybodaeth angenrheidiol iddynt i wneud y penderfyniadau perthnasol o bwys mawr yngylch i ba raddau y dylai Aelodau allu cyrchu a defnyddio Adnoddau'r Senedd yn ystod y diddymiad, lle gellir defnyddio disgresiwn.
Gwnaeth y Comisiynwyr benderfyniadau mewn saith maes fel bod gwybodaeth a chanllawiau manwl yn cael eu rhoi i'r Aelodau yn amserol, gan eu galluogi i baratoi'n briodol ar gyfer cyfnod y Diddymiad.
Cytunodd y Comisiynwyr i alluogi mynediad cyfyngedig at adnoddau’r Senedd ar gyfer gwaith achos a thasgau gweinyddol arferol yn unig, gan gynnwys galluogi swyddfeydd etholaethol neu ranbarthol i gael eu defnyddio at y dibenion hynny’n unig.
Gallai swyddfeydd Aelodau fod ar gael at ddibenion personol yn unig – er enghraifft ar gyfer ymgyrchu – os yw’r Aelodau'n rhentu'r adnoddau swyddfa a TGCh, a chodir 100 y cant o’r gost arnynt. Byddai angen gosod y trefniant hwnnw yn ei le cyn cyfnod y Diddymiad.
Gellir rhentu ffonau symudol a ffonau clyfar trwy gydol cyfnod y Diddymiad, neu eu rhoi yn ôl.
Bydd mynediad i Ystâd y Senedd yn ystod cyfnod y Diddymiad ar gyfer Aelodau a'u staff yn cael ei gyfyngu i'r ardaloedd cyhoeddus, ac eithrio deiliaid swyddi y mae eu cyfrifoldebau’n parhau, lle cânt fynediad at ddibenion eu swyddogaethau fel deiliaid swyddi.
Cytunodd y Comisiynwyr i ddarparu cefnogaeth all-leoli i'r Aelodau a'u staff.
Nododd y Comisiynwyr bod disgwyliad i’r rheini sy’n rhoi’r gorau i fod yn Aelodau i anelu at ddirwyn eu swyddfeydd i ben cyn pen chwe wythnos ar ôl diddymu'r Pumed Senedd.
5 Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon
Cymeradwyodd y Comisiynwyr adroddiad blynyddol a chyfrifon Comisiwn y Senedd ar gyfer y cyfnod o 1 Ebrill 2019 i 31 Mawrth 2020.
6 Adroddiad Blynyddol Amrywiaeth a Chynhwysiant
Cytunodd y Comisiynwyr ar y fersiwn ddrafft o Adroddiad Blynyddol 2019-20 ar Amrywiaeth a Chynhwysiant a’r adroddiad monitro data am y gweithlu ac arferion recriwtio, a'r adroddiad ar gyflog cyfartal a’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, ynghyd ag unrhyw gamau wrth symud i’r dyfodol.
Mae’r adroddiadau hyn yn amlinellu’r cynnydd gan dimau ar draws Comisiwn y Senedd wrth gyflawni ein hamcanion Amrywiaeth a Chynhwysiant a nodir yn y Strategaeth Amrywiaeth a Chynhwysiant. Canolbwyntiodd trafodaethau’r Comisiynwyr ar y data BAME, a’r gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi gwelliannau pellach i ddenu ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, a chefnogaeth i’r rheini sydd â chyfrifoldebau gofalu.
Trafododd y Comisiynwyr y cyflawniad diweddar o gyrraedd achrediad Platinwm Buddsoddwyr Mewn Pobl, a diolchwyd i'r staff am yr holl waith oedd ynghlwm wrth hynny.
7 Adroddiad Blynyddol ar Gydymffurfio â'r Cynllun Ieithoedd Swyddogol
Yn unol â Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012, bu'r Comisiynwyr yn ystyried adroddiad o'r gwaith a wnaed ar draws y sefydliad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, i alluogi'r Comisiwn i gynnal ei ymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog rhagorol.
Cymeradwyodd y Comisiynwyr yr Adroddiad.
8 Cynaliadwyedd - Adroddiad Blynyddol 2019-20
Cytunodd y Comisiynwyr i’r Adroddiad Blynyddol ar Gynaliadwyedd 2019-20 gael ei gyhoeddi.
Amlygodd yr adroddiad ar berfformiad cynaliadwyedd ystâd a gweithrediadau'r Senedd dros y flwyddyn ddiwethaf gyflawniadau amgylcheddol allweddol o ran perfformiad yn erbyn targedau, defnyddio cyfleustodau, ôl troed carbon y sefydliad a'r defnydd o adnoddau cyfyngedig. At hynny, bu’r Comisiynwyr yn ystyried y gwelliannau a wnaed i'r ystâd yn ogystal â'r dulliau gweithredu, a chytunwyd ar welliannau a gynlluniwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.
9 Penodiadau i’r Bwrdd Taliadau
Caiff penodiadau i'r Bwrdd Taliadau eu gwneud gan y Comisiwn. Cadarnhaodd y Comisiynwyr ddau benodiad newydd a dau ailbenodiad i'r Bwrdd Cydnabyddiaeth annibynnol, ar y sail a nodwyd ym Mesur Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau) 2010. Wrth wneud hynny fe wnaethant gadarnhau eu bod yn fodlon nad oedd yr un o'r rhai a gynigiwyd i'w penodi wedi'u gwahardd rhag bod yn aelodau o'r Bwrdd. Bydd y penodiadau newydd yn dechrau ar 21 Medi 2020.
Penododd y Comisiynwyr Elizabeth Haywood yn Gadeirydd, a Hugh Widdis yn aelod o'r Bwrdd i lenwi swyddi sydd ar fin bod yn wag, am dymor o bum mlynedd, ac ailbenodwyd Mike Redhouse a'r Fonesig Jane Roberts yn aelodau o'r Bwrdd am ail dymor o bum mlynedd.
10 Y wybodaeth ddiweddaraf am Ddiwygio'r Senedd
Diweddarwyd y Comisiynwyr yn fras ynghylch rhoi newid enw’r Senedd ar waith, ac agor y broses o gofrestru pleidleisiau i bobl ifanc.
11 Papurau i’w nodi:
11.a Diweddariad gan y Bwrdd Gweithredol (penderfyniadau o ran y dogfennau awdurdodi recriwtio)
Nododd y Comisiynwyr y crynodeb arferol o’r penderfyniadau recriwtio a fyddai ar gael ym mhob un o gyfarfodydd y Comisiwn.
11.b Cofnodion cyfarfod ACARAC ym mis Ebrill
Nododd y Comisiynwyr y diweddariad arferol ynghylch cyfarfod ARAC.
11.c Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Nododd y Comisiynwyr gais am wybodaeth gan y Pwyllgor Cyllid ac, oherwydd prinder amser, cytunwyd i ddeiliad y portffolio ymateb ar eu rhan, ac y byddai’n rhannu’n ymateb â’r Comisiynwyr hefyd.
12 Unrhyw fater arall
Ers y cyfarfod diwethaf, mae’r Comisiynwyr wedi gwneud un penderfyniad brys yn ymwneud ag ymestyn y cyfnod ar gyfer canslo gweithgareddau ymgysylltu cyhoeddus wyneb yn wyneb.